
Cartref Côr Meibion y Penrhyn yw Bethesda, pentref yng Ngogledd Cymru sydd yn enwog, ymhlith pethau eraill, am ei chwarel; Chwarel y Penrhyn. Mae'r pentref yn Nyffryn Ogwen, sydd ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri, oddeutu pum milltir o'r môr a dinas Bangor gyda'i phrifysgol enwog. Arferai chwarel y Penrhyn gyflogi 3000 o weithwyr i gynhyrchu llechi to i bob cwr o'r byd. Mae awtomeiddio wedi gostwng y gweithlu i oddeutu 300 erbyn heddiw.
'Roedd aelodau cyntaf y côr i gyd yn gweithio yn y chwarel. Heddiw, mae'r aelodau yn dod o amrywiaeth o swyddi yn cynnwys chwarelwyr, athrawon, gweithwyr banc, plymwyr, seiri coed ac yn y blaen. Ond mae ganddynt un peth yn eu rhwymo at ei gilydd; eu cariad at ganu.
Fel un o gorau hynaf Cymru mae repetoire y côr yn adlewyrchu traddodiadau canu corau meibion, gan gynnwys emynau enwog fel Gwahoddiad ac Arwelfa. Ond mae'r côr hefyd yn ymfalchio yn y ffaith iddynt gomisiynnu cyfansoddwr cyfoes fel William Mathias a Gareth Glyn i gyfansoddi'r gerdoriath i waith beirdd lleol fel y prifardd Ieuan Wyn sydd yn frodor o Fethesda. Un o'u darnau mwyaf cyffroes yw "Y Bryniau Melynion", geiriau Ieuan Wyn a cherddoriaeth Gareth Glyn.
Mae'r côr wedi cymeryd rhan mewn nifer o brosiectau unigryw; ym mis Hydref 1998 fe berfformiwyd sioe o'r enw Côr Meibion yn y Festival Hall, Llundain.'Roedd y perfformiad, a goreograffwyd gan Sioned Huws yn cynnwys y côr yn canu nifer o ddarnau yn ogystal â dawnswyr proffesiynol, disgyblion ysgolion lleol, dawns y glocsen a cherddoriaeth ar y delyn.
Mae'r côr wedi recordio nifer o recordiau, gan gynnwys "Dychwelyd" a recordiwyd yn arbennig ar achlysur canmlwyddiant ymweliad cyntaf y côr â Chicago yn 1893. Y ddiweddaraf yw "Arwelfa", C.Dd. a recordwyd ar gyfer y daith i'r Unol Daleithiau yn 2006. Yn 1998, 'roedd y côr yn fuddigol yng nghystadleuaeth y corau yng Ngwyl Pan Geltaidd Tralee, a hefyd fe gafwyd yr anrhydedd o ennill gwobr Côr yr Ŵyl. Mae cysylltiadau â ffrindiau a chymdeithasau lu gan y Côr ym Mhrydain a thramor. Bu saith ymweliad, i un cyfeiriad neu'r llal dros y blynddoedd â seindorf pentref Notzingen yn yr Almaen. Bu'r côr hefyd yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf ar lawer taith ym Mhrydain a'r Iwerddon, ynghyd â Chanada, Y Ffindir, Hwngari a'r Unol Daleithiau deirgwaith, yr olaf yn haf 2006 pan wahoddwyd y côr i ganu yng Nghymanfa Ganu Gogledd America yn Cincinnati.

Owain Arwel Davies B.Mus PGCE
Yn y flwyddyn 2001, dychwelodd Owain Arwel i'w wreiddiau yn Nyffryn
Ogwen gan ymgartrefu yn gyntaf yn Nhregarth ac yn ddiweddarach ym
Methesda. Magwyd ei fam, Eluned Davies, yn Fferm Bronnydd Uchaf,
Llanllechid, cyn symud i Fetws-y-Coed, lle bu nain Arwel, y diweddar
Mrs Gwen Owen yn cadw Gwely a Brecwast. Magwyd Arwel ym Mae Penrhyn ger
Llandudno, a thra'n ddisgybl yn Ysgol y Creuddyn roedd yn aelod o Gôr
Maelgwn gyda'i dad Arfon Davies, dan arweiniad Davey Jones. Mae ei
ddiddordebau a'i ymrwymiadau cerddorol yn ymestyn o fod yn aelod ac yn
rheolwr un o fandiau pres mwyaf llwyddiannus Cymru - sef Seindorf Hyn
Biwmares ac yn gyn brif Drombonydd Band Pres Ieuenctid Cymru ac
Ensemble Cymru. Ar y pegwn arall mae'n perfformio yn aml gyda nifer o
fandiau Roc amlycaf Cymru - Anweledig, Mim Twm Llai a Geraint Lovgreen
i enwi ond rhai. Fe raddiodd o Ysgol Gerdd Prifysgol Cymru, Bangor
gydag anrhydedd yn 1999, cyn gwneud cwrs ymarfer dysgu, a derbyn swydd
fel Pennaeth Cerdd Ysgol y Moelwyn yn y flwyddyn 2000. Mae erbyn hyn yn
bennaeth cerdd yn Ysgol Tryfan, Bangor. Fe'i penodwyd yn Arweinydd Côr
Meibion y Penrhyn yng ngwanwyn 2004 yn dilyn penderfyniad Mary S. Jones
i ganolbwyntio ar ei dyletswyddau cerddorol yn yr Unol Daleithiau
