| Côr y Penrhyn • Penrhyn Male Voice Choir | |
| Cartref | Hanes | Arweinydd & Cyfeilyddes | Oriel | Gwrando | Cysylltiadau | Cyswllt|Ar y Gweill | |
|
Owain Arwel Davies B.Mus, PGCE- Arweinydd |
|
|
Yn y flwyddyn 2001, dychwelodd Owain Arwel i'w wreiddiau yn Nyffryn Ogwen gan ymgartrefu yn Nhregarth. Magwyd ei fam, Eluned Davies, yn Fferm Bronnydd Uchaf, Llanllechid, cyn symud i Fetws-y-Coed, lle bu nain Arwel, y diweddar Mrs Gwen Owen yn cadw Gwely a Brecwast. Magwyd Arwel ym Mae Penrhyn ger Llandudno, a thra'n ddisgybl yn Ysgol y Creuddyn roedd yn aelod o Gôr Maelgwn gyda'i dad Arfon Davies, dan arweiniad Davey Jones. |
|
| Mae ei ddiddordebau a'i ymrwymiadau cerddorol yn ymestyn o fod yn aelod ac yn rheolwr un o fandiau pres mwyaf llwyddiannus Cymru - sef Seindorf Hyn Biwmares ac yn gyn brif Drombonydd Band Pres Ieuenctid Cymru ac Ensemble Cymru. Ar y pegwn arall mae'n perfformio yn aml gyda nifer o fandiau Roc amlycaf Cymru - Anweledig, Mim Twm Llai a Geraint Lovgreen i enwi ond rhai. | |
| Fe raddiodd o Ysgol Gerdd Prifysgol Cymru, Bangor gydag anrhydedd yn 1999, cyn gwneud cwrs ymarfer dysgu, a derbyn swydd fel Pennaeth Cerdd Ysgol y Moelwyn yn y flwyddyn 2000. Yno mae wedi profi cryn lwyddiant mewn cystadlaethau gyda Chorau'r Ysgol yn ogystal â'i gynhyrchiad diweddar o 'Prima Dona' lle gwelwyd corws o 130 yn rhoi perfformiad bythgofiadwy. Fe'i penodwyd yn Arweinydd Côr Meibion y Penrhyn yng ngwanwyn 2004 yn dilyn penderfyniad Mary S. Jones i ganolbwyntio ar ei dyletswyddau cerddorol yn yr Unol Daleithiau | |
![]() |
Fran Davies M.A., B.Mus, PGCE - Cyfeilyddes |
|
Yn enedigol o Ddihewyd, Ceredigion, mae'n athrawes Saesneg i blant tramor yn Ysgol Gynradd Cae Top, Bangor ac yn ddarlithydd rhan amser yng Ngholeg Menai yn dysgu Saesneg i dramorwyr hÿn. |
|
|
Bu'n fuddigol yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth ac yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd ym Mhwllheli ar yr unawd piano. |
|
|
Mae'n aelod oes, Urdd Cerdd Ofydd yr Orsedd. Ei henw gorseddol yw Frances Dalis |
|
| © 2003 Côr Meibion y Penrhyn | i'r dechrau | e-bost | |