Côr Meibion y Penrhyn • Penrhyn Male Voice Choir
| Cartref |Hanes | Arweinydd & Cyfeilyddes | Oriel | Gwrando | Cysylltiadau | Cyswllt |Ar y Gweill

Cartref Côr Meibion y Penrhyn yw Bethesda, pentref yng Ngogledd Cymru sydd yn enwog, ymhlith pethau eraill, am ei chwarel; Chwarel y Penrhyn. Mae'r pentref yn Nyffryn Ogwen, sydd ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri, oddeutu pum milltir o'r mor a dinas Bangor gyda'i phrifysgol enwog.

Arferai chwarel y Penrhyn gyflogi 3000 o weithwyr i gynhyrchu llechi to i bob cwr o'r byd. Mae awtomeiddio wedi gostwng yn gweithlu i oddeutu 300 erbyn heddiw.

'Roedd aelodau cyntaf y côr i gyd yn gweithio yn y chwarel. Heddiw, mae'r aelodau yn dod o amrywiaeth o swyddi yn cynnwys chwarelwyr, athrawon, gweithwyr banc, plymwyr, saeri coed ac yn y blaen. Ond mae ganddynt un peth yn eu rhwymo at eu gilydd; eu cariad at ganu.

Fel un o gorau hynaf Cymru mae repetoire y côr yn adlewyrchu traddodiadau canu corau meibion, gan gynnwys emynau enwog fel Gwahoddiad ac Arwelfa. Ond mae'r côr hefyd yn ymfalchio yn y ffaith iddynt gomisiynnu cyfansoddwr cyfoes fel William Mathias a Gareth Glyn i gyfansoddi'r gerdoriath i waith beirdd lleol fel y prifardd Ieuan Wyn sydd yn frodor o Fethesda. Un o'u darnau mwyaf cyffroes yw "Y Bryniau Melynion", geiriau Ieuan Wyn a cherddoriaeth Gareth Glyn.

Mae'r côr wedi cymeryd rhan mewn nifer o brojectau unigryw, ym mis Hydref 1998 fe berfformiwyd sioe o'r enw Côr Meibion yn y Festival Hall, Llundain.

'Roedd y perfformiad, a goreograffwyd gan Sioned Huws yn cynnwys y cor yn canu nifer o ddarnau yn ogystal a dawnswyr proffesiynol, disgyblion ysgolion lleol, dawns y glocsen a cherddoriaeth ar y delyn.

Mae'r côr wedi recordio nifer o recordiau, gan gynnwys "Dychwelyd" a recordiwyd yn arbennig ar achlysur canmlwyddiant ymweliad cyntaf y cor a Chicago yn 1893. Y ddiweddaraf yw "Arwelfa", C.Dd. a recordwyd ar gyfer y daith i'r Unol Daleithiau yn 2006.

Yn 1998, 'roedd y côr yn fuddigol yng nghystadleuaeth y corau yng Ngwyl Pan Geltaidd yn Tralee, ac hefyd fe gafwyd yr anrhydedd o ennill gwobr Côr yr Wyl.

Mae cysylltiadau â ffrindiau a chymdeithasau lu gan y Côr ym Mhrydain a thramor. Bu saith ymweliad, i un cyfeiriad neu'r llal dros y blynddoedd â seindorf pentref Notzingen yn yr Almaen. Bu'r côr hefyd yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf ar lawer taith ym Mhrydain a'r Iwerddon, ynghyd â Chanada, Y Ffindir, Hwngari a'r Unol Daleithiau deirgwaith, yr olaf yn haf 2006 pan wahoddwyd y côr i ganu yng Nghymanfa Ganu Gogledd America yn Cincinnati.

© 2003 Côr Meibion y Penrhyn | i'r dechrau | e-bost