logo

This is a placeholder of 3D Flash Slider. Feel free to put in any alternative content here.

Croeso i wefan Côr y Penrhyn

image

Cartref Côr Meibion y Penrhyn yw Bethesda, pentref yng Ngogledd Cymru sydd yn enwog, ymhlith pethau eraill, am ei chwarel; Chwarel y Penrhyn. Mae'r pentref yn Nyffryn Ogwen, sydd ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri, oddeutu pum milltir o'r môr a dinas Bangor gyda'i phrifysgol enwog.

Fel un o gorau hynaf Cymru mae repertoire y côr yn adlewyrchu traddodiadau canu corau meibion, gan gynnwys emynau enwog fel Gwahoddiad ac Arwelfa. Ond mae'r côr hefyd yn ymfalchio yn y ffaith iddynt gomisiynu cyfansoddwyr cyfoes fel William Mathias a Gareth Glyn i gyfansoddi'r gerddoriath i waith beirdd lleol fel y prifardd Ieuan Wyn sydd yn frodor o Fethesda. Un o'u darnau mwyaf cyffoes yw "Y Bryniau Melynion", geiriau Ieuan Wyn a cherddoriaeth Gareth Glyn.

Stiwdio BBC Maida Vale

image

Cawsom ddiwrnod blinedig, ond llwyddianus a chyffrous yn stiwdio'r BBC yn Maida Vale, Llundain lle recordiwyd pedair cân yn cynnwys addasiad ein cyfarwyddwr cerdd o Pererin Wyf, ar alaw "House of the Rising Sun". Fe fydd y caneuon yma yn cael eu cynnwys ar ein CD newydd.

 




Recordiau

Mae'r côr wedi cyhoeddi amryw o recordiau dros y blynyddoedd, y diweddaraf yw CD or enw Arwelfa, ac fel byddech yn ddisgwyl mae'r emyn enwog yma yn un o'r caneuon ar y CD. 'Rydym hefyd yn gwerthu DVD o gyngerdd a berfformiwyd yn y "Chicago Cultural Center" fel rhan o'n taith yn America yn 2006, mae pytiau o'r DVD ar ein sianel YouTube


Dyddiadau:

Medi 24
Eglwys St Ioan, Llandudno
Cyngerdd, 7.30
Rhagfyr 11

Neuadd Prichard - Jones, Bangor

Cyngerdd gyda:

Rhys Meirion

Iwan Llewelyn Jones

Glain Dafydd

Shappard

John Ogwen

Newyddion Diweddaraf

  • Cyngerdd Blynyddol, Neuadd PJ, Bangor
  • Mae'r côr yn cynnal eu cyngerdd blynyddol eleni yn Neuadd Prichad-Jones, Bangor, ac yn cael cwmni rai o sêr y byd cerddorol yng Nghymru, yn ogystal â lansio eu CD newydd ar y noson. Bydd y côr yn cael cwmni:
  • Rhys Meirion (Tenor)
    Iwan Llewelyn Jones (Piano)
    Glain Dafyddd (Telyn)
    Shappard(Pedwarawd Llinynnol)
    Gwyn Owen (Trwmped)
    John Ogwen (Cyflwynydd)
  • Fe fydd elw'r noson yn mynd i ganghennau Bangor a Bethesda o apel Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012
    • Anrheg y côr yn dychwelyd ar ôl dros 100 mlynedd

      'Rydym yn eithriadol o falch o gael darganfod cloc hanesyddol na wyddem amdano. Fe gafodd y cloc ei gynhyrchu yn arbennig fel anrheg i Mr W Gray a fu yn rhannol gyfrifol am gasglu arian i alluogi aelodau'r côr ideithio i Ffair y Byd yn Chicago yn 1893.Gellir mentro bod hon yn siwrne anhygoel y pryd hynny ac yn antur anferth i'r côr i gyd. 'Roedd hi'n gyfnod anodd iawn i deuluoedd ym Methesda yn y cyfnod hwn, gyda nifer o streiciau bychain yn digwydd yn y chwarel. Fe fu i Mr Gray fod o gymorth mawr yn casglu'r arian; 'roedd Mr Gray ar y pryd yn reolwr ym Mhorth Penrhyn, Bangor.

    • Eglwys St Ioan, Llandudno

      Mae'r côr yn falch iawn o gael y cyfle i ddiddanu cynulleidfaoedd yn Eglwys St Ioan, Llandudno eto eleni; dyma'r bedwaredd flwyddyn i'r côr gael y fraint o berfformio yn yr eglwys hardd hon. Mae yna gyngerdd corawl bob wythnos ar nos Iau a nos Sadwrn ac eleni 'rydym yn ffodus o gael canu mewn nifer o nosweithiau

      Mae'r cyngherddau yma yn boblogaidd iawn ac fe fydd y cyngherddau nos Iau yn cynnwys unawdwyr gwadd.
    • Cryno Ddisg Newydd

      'Rydym yn brysur yn ymarfer darnau newydd o gerddoriaeth ar gyfer ein CD newydd a fydd yn cael ei chyhoeddi at ddiwedd y flwyddyn; byddwn yn defnyddio'r caneuon a recordiwyd yn Maida Vale, a gobeithiwn gael gweithio gyda cherddorfa ac artisitiaid eraill i'w cynnwys ar y CD newydd. Mwy o fanylion i ddilyn.