logo
Cyfarwyddwr cerdd

Cyfarwyddwr Cerdd a Chyfeilyddes

Owain Arwel Davies a Frances Davies.

+Mwy
Tom a Keith

"Y cloc yn dychwelyd"

Keith Roberts a Tom Morgan (Llywydd y côr) mewn seremoni i gyflwyno'r y cloc 1893 yn ôl i'r côr.

Carl

Carl methu a disgwyl

Un o aelodau'r côr yn methu disgwyl cael ei ddwylo ar y cloc "'Sa hwn yn edrych yn dda ar silff ben tân adra!!".

Recordio yn stiwdio'r BBC, Maida Vale

Cymeryd pob cyfle i ymarfer.

+Mwy

I ymweld â'n sianel YouTube, cliciwch ar y botwm

Dyddiadau:

Medi 24
Eglwys St Ioan, Llandudno
Cyngerdd, 7.30
Rhagfyr 11

Cyngerdd Blynyddol, Neuadd PJ, Bangor

gyda

Rhys Meirion
Iwan LLewelyn Jones
Glain Dafydd
Shappard
Gwyn Owen
John Ogwen

 

Newyddion

Diweddaraf:

  • Cyngerdd Blynyddol, Neuadd PJ, Bangor
  • Mae'r côr yn cynnal eu cyngerdd blynyddol eleni yn Neuadd Prichad-Jones, Bangor, ac yn cael cwmni rai o sêr y byd cerddorol yng Nghymru, yn ogystal â lansio eu CD newydd ar y noson. Bydd y côr yn cael cwmni:
  • Rhys Meirion (Tenor)
    Iwan Llewelyn Jones (Piano)
    Glain Dafyddd (Telyn)
    Shappard(Pedwarawd Llinynnol)
    Gwyn Owen (Trwmped)
    John Ogwen (Cyflwynydd)
  • Fe fydd elw'r noson yn mynd i ganghennau Bangor a Bethesda o apel Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012
    • Anrheg y côr yn dychwelyd ar ôl dros 100 mlynedd

      'Rydym yn eithriadol o falch o gael darganfod cloc hanesyddol na wyddem amdano. Fe gafodd y cloc ei gynhyrchu yn arbennig fel anrheg i Mr W Gray a fu yn rhannol gyfrifol am gasglu arian i alluogi aelodau'r côr ideithio i Ffair y Byd yn Chicago yn 1893.Gellir mentro bod hon yn siwrne anhygoel y pryd hynny ac yn antur anferth i'r côr i gyd. 'Roedd hi'n gyfnod anodd iawn i deuluoedd ym Methesda yn y cyfnod hwn, gyda nifer o streiciau bychain yn digwydd yn y chwarel. Fe fu i Mr Gray fod o gymorth mawr yn casglu'r arian; 'roedd Mr Gray ar y pryd yn reolwr ym Mhorth Penrhyn, Bangor.

    • Eglwys St Ioan, Llandudno

      Mae'r côr yn falch iawn o gael y cyfle i ddiddanu cynulleidfaoedd yn Eglwys St Ioan, Llandudno eto eleni; dyma'r bedwaredd flwyddyn i'r côr gael y fraint o berfformio yn yr eglwys hardd hon. Mae yna gyngerdd corawl bob wythnos ar nos Iau a nos Sadwrn ac eleni 'rydym yn ffodus o gael canu mewn nifer o nosweithiau

      Mae'r cyngherddau yma yn boblogaidd iawn ac fe fydd y cyngherddau nos Iau yn cynnwys unawdwyr gwadd.
    • Cryno Ddisg Newydd

      'Rydym yn brysur yn ymarfer darnau newydd o gerddoriaeth ar gyfer ein CD newydd a fydd yn cael ei chyhoeddi at ddiwedd y flwyddyn; byddwn yn defnyddio'r caneuon a recordiwyd yn Maida Vale, a gobeithiwn gael gweithio gyda cherddorfa ac artisitiaid eraill i'w cynnwys ar y CD newydd. Mwy o fanylion i ddilyn.

  •